Am Danom Ni
YSTAFELL GYMUNEDOL THEATR COLWYN
Fel rhan o’r ailddatblygiad, mae Theatr Colwyn rwan yn cynning ystafell gymedol i fyny’r grisiau i’w llogi o £7.50 yr awr.
Mae lle i 48 bobl yn yr ystafell gymunedol, ac mae’n cynnwys cael defnyddio taflunydd LCD, PA a chegin.
Mae’r ystafell yn addas ar gyfer cyfarfodydd / cynadleddau / arddangosfeydd celf / gwerthiannau bach pen bwrdd / partion a llawer iawn mwy. Cysylltwch a ni i drafod eich gofynion.
——————————————-
Lawrlwythwch ein Cynllun Seddau (PDF)
“Theatr Colwyn – sinema weithredol hynaf Prydain”
Agorwyd drysau’r lleoliad sydd bellach yn cael ei alw’n Theatr Colwyn i’r cyhoedd am y tro cyntaf dros 126 o flynyddoedd yn ôl.
Yn ystod yr 1880au, roedd yn cael ei alw’n Public Hall – fel mae’r plac ar dop yr adeilad yn dal i dystio – ond mae sawl defnydd wedi’i wneud ohono, yn union fel heddiw – man ar gyfer adloniant, trafodaethau, dawnsfeydd a digwyddiadau codi arian.
Rydym yn falch o gael cyhoeddi bod ymchwiliadau diweddar yn yr archifau cyhoeddus wedi canfod mai’r adeilad hwn yw’r sinema weithredol hynaf ym Mhrydain.
Dangoswyd y ffilmiau cyntaf ym mis Ionawr 1909, pan roedd y mentrwr Harry Reynolds yn rhedeg yr adeilad.
Mae amser, blas cynulleidfaoedd a thechnoleg wedi llamu ymlaen ers hynny, ond mae’r lleoliad a’i grŵp bychan o staff, gwirfoddolwyr a chefnogwyr, dan arweiniad y rheolwr Phil Batty, yn dal i weithredu yng nghanol y gymuned, fel y gwnaeth y rhai oedd yn rheoli’r adeilad yr holl flynyddoedd yn ôl.
Mae Theatr Colwyn yn theatr dderbyn, gyda 329 seddi (gan gynnwys llefydd i gadeiriau olwyn) ac mae’n gartref i amryw o berfformiadau dawns a drama i gyngherddau cerddoriaeth roc, sioeau yn yr iaith Gymraeg a phantomeim hynod boblogaidd dros y Nadolig.
Mae ei gynulleidfa sinema yn ffynnu, ac yn dod yma nid yn unig i fwynhau’r ffilmiau mawr diweddaraf ar y sgrin fawr, ond hefyd ffilmiau annibynnol, clasurol a thramor, diolch i Glwb Ffilmiau Rialto.
Mae’r adeilad hefyd ar gael i’w logi (cysylltwch â Phil Batty i gael y prisiau), ac rydym newydd agor stiwdio ac ystafell ymarfer. Mae bar sy’n gwerthu alcohol a diodydd ysgafn ar gael cyn ac yn ystod yr egwyl ar gyfer y rhan fwyaf o berfformiadau byw.
Mae grŵp Ffrindiau a gwirfoddolwyr Theatr Colwyn yn ffynnu. I ddod o hyd i ragor o wybodaeth am eu gwaith i gefnogi’r theatr, gan gynnwys rhaglen noddi seddi, ewch i http://www.theatrcolwynfriends.com/
Mae’n anrhydedd i ni gael Terry Jones fel noddwr. Fe’i ganwyd ym Mae Colwyn a bu’n actio yn Monty Python yn ogystal ag ysgrifennu a chyfarwydo’r rhaglen.