Theatr Colwyn

BRIEF ENCOUNTER (PG)

BRIEF ENCOUNTER (PG)

Clasur Prynhawn yn Theatr Colwyn
Lluniaeth am ddim!

Blwyddyn: 1945
Hyd y Ffilm: 87 munud
Cyf: David Lean
Actorion Celia Johnson, Trevor Howard
Mewn du a gwyn

Clasur Prydeinig sydd mor enwog prin ei bod angen cyflwyniad. Wedi’i chyfarwyddo gan yr amateur David Lean a’i haddasu gan Noel Coward o’i ddrama lwyfan ei hun, mae hon yn stori garu grefftus, ingol a hardd.

Mae Laura Jesson yn cyfarfod Dr Alex Harvey ar ddamwain mewn gorsaf reilffordd. Wrth iddynt ddod i adnabod ei gilydd, mae eu hatyniad i’w gilydd hefyd yn tyfu, er gwaethaf y ddau fod yn briod. Ar fin dechrau perthynas anghyfreithlon ac wir mewn cariad, rhaid i’r ddau wneud penderfyniad a allai eu gwahanu am byth.

 

Arddangos

Dyddiadau Sioeau Amser Dechrau Pris
Chwefror 04th 2012 2.30pm £3.50

THE DEEP BLUE SEA (12A)

Noson Ffilm Rialto
Cyf: Terrence Davies
Gwlad: Gweddill y byd, y DU/ Rest of the world, UK
Hyd y ffilm: 98 munud
Gyda: Rachel Weisz, Simon Russell Beale,Tom Hiddleston

Mae Hester Collyer (Enillydd Gwobr yr Academi Rachel Weisz) yn byw bywyd breintiedig ym 1950’au Llundain fel gwraig brydferth barnwr yr uchel lys Syr William Collyer (Simon Russell Beale). Er mawr syndod i bawb o’i chwmpas, mae’n gadael ei phriodas tu ôl iddi ac yn symud i mewn â chyn beilot RAF, Freddie Page (Tom Hiddleston), y mae wedi syrthio dros ei phen a’i chlustiau mewn cariad ag o.
Wedi’i gosod ym Mhrydain ar ôl y rhyfel, mae’r addasiad hwn o ddrama glasur Terence Rattigan, THE DEEP BLUE SEA, yn astudiaeth o gariad wedi’i wahardd, awch cuddiedig a’r ofn o unigrwydd – ond yn ei hanfod mae’n stori gariad sy’n sicr o’ch ysgwyd. Yn sownd rhwng y wal a’r pared, beth – neu bwy – ddylai Hester ddewis?

Arddangos

Dyddiadau Sioeau Amser Dechrau Pris
Chwefror 05th 2012 7.30pm £4.50

THE GIRL WITH THE DRAGON TATTOO (18)

Gydag isdeitlau: ar ddydd Mawrth os ydynt ar gael

Cyfarwyddwr: David Fincher
Gwlad: UDA | Sweden | Prydain | Yr Almaen
Blwyddyn: 2011
Hyd y Ffilm: 152munud

Gyda’r sêr: Daniel Craig, Rooney Mara, Christopher Plummer, Stellan Skarsgård, Steven Berkoff, Robin Wright, Yorick van Wageningen,
Joely Richardson

Dyma’r ail addasiad i’r sgrin fawr yn seiliedig ar stori drosedd gyffrous o nofel hynod boblogaidd Stieg Larsson sydd wedi’i gosod yn Sweden.

Y tro hwn, Daniel Craig sy’n chwarae rhan y newyddiadurwr ymchwiliol Mikael Blomkvist, sy’n troi at yr haciwr a’r pync seibr problemus Lisbeth Salander (Rooney Mara) am help i ddatrys diflaniad merch yn ei harddegau sawl degawd yn ôl.

Nodwch: Mae’r ffilm hon yn cynnwys trais a golygfeydd o drais rhywiol.

Arddangos

Dyddiadau Sioeau Amser Dechrau Pris
Chwefror 10th 2012 7.30pm £3.50
Chwefror 11th 2012 7.30pm £3.50
Chwefror 13th 2012 7.30pm £3.50
Chwefror 15th 2012 7.30pm £3.50
Chwefror 16th 2012 7.30pm £3.50

Tudalen 1 of 5.
 1 2 3 >  Last »

Ymunwch â ni

Gyda sioeau a ffilmiau cystal mae'n siŵr na fyddwch am golli unrhyw adloniant sydd ar gael yn Theatr Colwyn. Ymunwch â ni yma i dderbyn y rhestr digwyddiadau a'r wybodaeth ddiweddaraf.

Eich sylwadau

Gwybodaeth y wefan

©2009 Theatr Colwyn