ALLAN YN Y FAN
Steam Pie Presents: Allan Yn Y Fan - TAITH PWNCO
Mae Allan Yn Y Fan yn bumawd aml offerynnol a lleisiol sydd mor enwog bellach am eu “lleisiau hardd” ag am eu “darnau offerynnol tanbaid.” Ar y daith hon, bydd Allan Yn Y Fan yn chwarae detholiad o ganeuon ac alawon o’u halbwm newydd sbon “Pwnco”.
Bydd y cyngerdd yn cynnwys dehongliadau’r band o rai o oreuon eraill cerddoriaeth draddodiadol yn ogystal â nifer o gyfansoddiadau’r band eu hunain. Daw teitl y daith a’r albwm o dôn newydd sydd wedi’i chynnwys yn un o’r caneuon allweddol ar yr albwm, “Canu Cwnsela”, sy’n ymwneud â’r ornest am y craffaf yn nhraddodiad y Fari Lwyd, lle bydd chwaraewyr yn cael eu gwobrwyo â bwyd a diod.
Bydd Allan Yn Y Fan yn gwobrwyo eu cynulleidfaoedd gyda chyngerdd fydd yn amrywio o ganeuon myfyriol a chyffrous am fywyd a chariad, i ddetholiadau bywiog gan gynnwys jig, rîl a pholca.
“The most sensitive and experienced of Welsh bands…….the rate at which Allan Yn Y Fan has gone from being just another instrumental Celtic outfit to front-runners is nothing short of astonishing” Simon Jones fROOTS magazine June 2011