BAY BLUES
Pedwar o fandiau’r ‘blues’ gorau yng Ngogledd Cymru yn perfformio caneuon llwyddiannus Hooker, Hendrix a llawer mwy!
Gyda the Alison Kay Band, 0151, The Jack and Stormy Monday.
Pedwar o fandiau’r ‘blues’ gorau yng Ngogledd Cymru yn perfformio caneuon llwyddiannus Hooker, Hendrix a llawer mwy!
Gyda the Alison Kay Band, 0151, The Jack and Stormy Monday.
| Dyddiadau Sioeau | Amser Dechrau | Pris |
|---|---|---|
| Mehefin 15th 2012 | 7.30pm | £10 |
Arts Active yn cyflwyno
Bert’s Magical Musical Kitchen
gan The Tiddly Prom Trio
Mae Bert yn cynnal parti i’r Faeres Daphne Dil. Ond mae llawer i’w wneud; mae’n rhaid iddo baratoi’r bwyd, gwahodd y gwesteion a threfnu gemau parti. Yn ffodus, mae ffrind Bert, Cherry, yna i helpu, a bydd ei ffrindiau cerddorol yn dod â cherddoriaeth wych gyda nhw. Beth allai fynd o’i le!
Mae Bert’s Magical Musical Kitchen yn gyngerdd hygyrch, ryngweithiol, sy’n llawn gwybodaeth i blant oedran cyn ysgol. Cyfle i swyno, syfrdanu ac ysbrydoli plant ifanc, a’r oedolion y maent yn eu hedmygu. Nid yn unig yw’r perfformiad yn llawer o hwyl, ond y mae hefyd yn addysgol, yn dysgu sgiliau gwrando,cerddoriaeth, datrys problemau a gweithio mewn tîm, yn ogystal â chyflwyno offerynnau cerddorol i blant y blynyddoedd cynnar.
Gwelwn Bert yn gwneud teisen yn fyw ar y llwyfan, a thra bod y menyn, siwgr, wyau a blawd yn cael eu cymysgu i wneud teisen flasus, mae’r cynhwysion cerddorol yn cyfuno i ffurfio sgôr hyfryd a dyfeisgar. Tra bydd Bert a’i ffrind Cherry yn disgwyl i’r deisen bobi, maent yn canu caneuon gwirion, yn gwneud hud, cerddoriaeth a helynt, ac yn paratoi ar gyfer parti pen-blwydd arbennig gyda’r Faeres.
Mae Bert’s Magical Musical Kitchen wedi’i dylunio’n arbennig gan dîm creadigol Arts Active i blant dan 5 oed, ac mae’n gyfle gwych i blant ifanc gael profiad o gerddoriaeth ryngweithiol, gyda cherddorion proffesiynol mewn awyrgylch creadigol a hwyliog. Gyda sgôr i’r clarinét, bas dwbl, trwmped ac offerynnau taro, mae’r perfformiad yn cyflwyno’r offerynnau cerddorol hyn i’r rhai ifanc iawn, ac yn gadael iddynt fwynhau cyffro offerynnau acwstig byw.
| Dyddiadau Sioeau | Amser Dechrau | Pris |
|---|---|---|
| Medi 10th 2012 | 11am | £4 | teachers free |
Kylie-A-Like, dan arweiniad Suzy Hopwood drawiadol yw un o sioeau teyrnged Kylie hiraf yn y DU ers ei sefydlu yn 2001 ac mae’n parhau i fynd o nerth i nerth gan ychwanegu rhagor o wisgoedd mwy ffantastig, caneuon newydd sbon a chaneuon wedi’u hailgymysgu, symudiadau dawns ac ambell i syrpréis!
Dyma’r sioe deyrnged Kylie sy’n siŵr o gael ei chefnogwyr i gyd, yn ogystal â phawb sy’n hoffi cerddoriaeth bop dda, yn canu a dawnsio i hoff ganeuon Kylie, gyda chymorth dawnswyr a band gwych Suzy!
Gyda 15 mlynedd o brofiad, a chyda’r un nodweddion â Kylie ei hun, ac yn 5 troedfedd 1 modfedd o daldra, mae Suzy a’i sioe deyrnged wych yn talu gwrogaeth i un o’r artistiaid benywaidd mwyaf llwyddiannus erioed, a’i gyrfa 3 degawd.
Mae Kylie-A-Like wedi perfformio mewn nifer o wledydd o amgylch y byd, gan ennill y teitl sioe deyrnged orau Kylie mwy nag unwaith!
Gan leisio’n gywir a pherfformio’i gorau glas bob tro, a hynny’n fyw bob amser, heb unrhyw feimio yn ein sioe, Suzy Hopwood yw’r Kylie berffaith, felly, peidiwch ag oedi ac archebwch eich tocynnau heddiw !
“The magnificently costumed Kylie tribute act. In costume and sound alike terms, this tribute was quite superbly accurate and well put together” The Stage
| Dyddiadau Sioeau | Amser Dechrau | Pris |
|---|---|---|
| Medi 21st 2012 | 7.30pm | £10 | £9 con | £8 children |
©2009 Theatr Colwyn